Amdanom ni

Rydym yn dylunio, gosod a chynnal systemau gwresogi mawrion. Gall y mewnbwn wres ddod o unrhyw ffynhonell, megis:

• Biomàs – defnyddio tanwydd sy’n seiliedig ar blanhigion fel pelenni pren, boncyffion neu sglodion
• Pympiau gwres ffynhonnell ddaear neu aer – echdynnu gwres o’r amgylchedd cyfagosneu.
Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma i fynd i’n gwefan chwaer
• Paneli egni’r haul
• Bwyleri olew – tanwydd safonol, sydd ar gael yn hawdd. Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma i fynd i’n gwefan chwaer
• Bwyleri nwy
• Neu gymysgedd o’r uchod. Mae systemau biomàs gyda bwyler olew neu nwy wrth gefn yn cynnal nifer o’n cwsmeriaid masnachol.

Er mwyn sicrhau effeithlonrwydd uchel, mae dyluniadau ein systemau newydd fel arfer yn defnyddio storfa wres mawr a falfiau sy’n addasu’r system yn ôl y tywydd. Gall y cydrannau hyn a’r unedau rheoli cyfoes gael eu gosod mewn systemau gwresogi presennol i wella’u effeithlonrwydd.

O ran allbwn wres, gellir defnyddio gwres tan-llawr, rheiddiaduron, gwyntyllau neu gymysgedd o’r tri. Mae gwresogi waliau a nenfydau’n uniongyrchol hefyd yn bosib.

Yn ddelfrydol, byddem yn cyflwyno datrysiad pecyn i chi fel bod gennym reolaeth dros y prosiect cyfan, gan ddechrau gyda’r dyluniad. Ar gyfer y gosodiad, byddem yn dod â thrydanwr i mewn gyda’r dull a’r profiad cywir, ac adeiladwr medrus i ddelio ag agweddau adeiladu’r prosiect. Mae cael rheolaeth dros y pecyn cyfan yn caniatáu inni gydlynu’r gwaith er mwyn lleihau’r aflonyddwch i’ch safle.

Os ydych chi eisoes wedi penodi trydanwyr ac adeiladwyr, rydym yn fwy na pharod i ddod yn rhan o’r tîm ac yn hynny o beth, gorau po gyntaf y gallwn fod yn rhan. Bydd yn rhoi digon o amser inni gydlynu â chontractwyr eraill fel nad ydym yn gorgyffwrdd ac yn rhwystro ein gilydd. Gellir rhannu amserlenni pwysig i leihau effaith toriadau pŵer neu ddiffodd dŵr.

Mae Gwres Glas yn cynnig gwasanaeth ymgynghori er mwyn asesu eich system wresogi dŵr masnachol. Bydd ymgynghoriad yn gyfle i ddeall eich anghenion gwres ac egni ac adnabod gwendidau a cholledion egni o fewn eich systemau gwresogi. Ein nod yw gwella effeithlonrwydd ac effeithlondeb eich systemau gwresogi i arbed egni ac arian i chi yn y pen draw.

Rydym yn gweithio ar systemau sydd â galw uchel am ynni a dŵr poeth ar gyfer amrywiaeth o ddiwydiannau:

  • Bragdai
  • Gwestai a lletai gwyliau
  • Pyllau nofio
  • Ffermydd
  • Cynhyrchwyr bwyd
  • Cartrefi gofal

Ar sail asesiad trwyadl o’ch systemau gwresogi, bydd Gwres Glas yn cynhyrchu adroddiad manwl yn cynnwys argymhellion a gwelliannau. Gall hyn gynnwys amrywiaeth o waith megis addasu trefn a maint y peipiau, defnyddio systemau rheoli cyfoes ac integreiddio ‘buffer tanks’ a phaneli solar i mewn i’r system.

Os ydech yn dewis symud ymlaen â’r gwellianau, mae Gwres Glas yn darparu gwasanaeth dylunio technegol M & E er mwyn cynllunio’r gwaith (gweler isod). Ar sail ein dyluniadau, gallwn hefyd gyflawni’r gwaith gosod a chynnal pe hoffwch.

Gall Gwres Glas a’i bartneriaid gynhyrchu datrysiad peirianyddol cywrain a manwl ar gyfer eich prosiect wresogi. Gallwn ddylunio proesiect cyflawn, gan gynnwys: bwyleri, gwaith peipiau, storfeydd tanwydd, simneau, peipiau & systemau rheoli awyr, gwaith trydanol i bweru a rheoli, ac agweddau o adeiladwaith.

Hyd yn hyn, ein prosiect wresogi cynhwysfawr mwyaf yw dylunio a gosod bwyleri, peipiau, gwifrau pwer a rheoli a rhywfaint o adeiladwaith ar gyfer swyddfeydd InSite Technical, yn Sir Benfro – gweler ddisgrifiad o’r gwaith yma.

Ar gyfer y prosiectau a ddisgrifir ar y wefan, fe wnaethom gynhyrchu sgematigau 2-D a lluniadau graddfa. Gallwn ddarparu modelau 3-D ar gyfer pibellau, offer a rhediadau cebl trwy arbenigwr trydydd parti.

Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith dylunio gwresogi masnachol, prosesau diwydiannol a M&E ar gael ar ein tudalen brosiectau. Mae hyn hefyd yn cynnwys manylion am waith blaenorol a wnaed.