Gwella dosbarthiad gwres a rheolaeth bwyler mewn cwmni amaethyddol mawr

Daeth rheolwyr Brinklow Quarry, ger Rugby atom yn chwilio am ffordd o wella dosbarthiad gwres eu system wresogi enfawr (800kW) oedd yn cael trafferth gwresogi eu amryw adeiladau.

Newidwyd yr hen beipiau dur, aneffeithlon am beipiau tan-ddaearol gydag ynysiad wedi’u weldio mewn dull ‘electro-fusion’. Ychwanegwyd system reoli unigryw (gan MotorControlWarehouse) i redeg y bwyler a’r pympiau. Nid oedd angen byffer yn y system hwn oherwydd cyfaint mawr siaced y bwyler ei hun.