Cynhesir a chyflenwir yr amryw fwthyn a ffermdy ar safle gwyliau Hendre Aled â dŵr poeth ar safle gwyliau Hendre Aled drwy ddefnyddio tri phwmp gwres tan-ddaearol (Kensa) sy’n tynnu gwres o ddau gadwyn hir o beipiau tan-ddaearol.
Mae cysylltiadau dibynadwy a chryfion yn y gwaith peipiau tan-ddaearol yn hynod o bwyis, a’r dull gorau o sicrhau hyn yw weldio ‘electro-fusion’. Os yw’r gwaith paratoi ar y peipiau’n ofalus, mae’n ddull hynod o ddibynadwy sy’n magu hyder yn y gwaith peipau.

Mae cynllunio gofalus yn hanfodol pan fyddwch chi’n mynd i gloddio ardaloedd mawr i redeg y rhesi daear.



Marciwyd llwybr y rhesi daear ac yna cloddiwyd hwy. Yna gosodwyd y slinkies yn y ffosydd a’u cysylltu â maniffold.
Mae’r maniffold yn gweithredu fel pwynt rheoli a monitro. Mae’n rheoli llif a phwysau’r hylif sy’n cylchredeg rhwng y rhesi daear a’r pwmp gwres.

Roedd cynllunio gofalus hefyd yn bwysig wrth ddylunio sut y byddai’r gwahanol bympiau’n gweithio gyda’i gilydd.
Roedd y panel rheoli wedi’i osod allan yn daclus i ganiatáu hwylustod defnydd.
