System wresogi newydd ar gyfer bloc mawr o swyddefyedd

Dyluniwyd a gosodwyd bwyler a system wresogi newydd yn swyddfeydd Insite Technical ym Mhont Cleddau. Mae InSite yn darparu gwasanaethau dylunio a rheolaeth prosiectau i’r diwydiannau niwclear, olew a nwy.

Roedd dau brif agwedd i gysudro pan penodwyd Gwres Glas i’r proesiect hwn. Yn gyntaf, roedd InSite yn gofyn am system dygn a dibynadwy gan fod y peipiau’n rhedeg ar hyd llwybrau sawl cilomedr o wifrau pwer a data. Yn ail, roedd rhaid cwblhau’r prosiect cyn terfyn contract hen swyddfeydd y cwmni, gyda nifer cynyddol o staff yn symud i’r swyddfeydd newydd.

Er mwyn cyfateb a’r gofyn am ddygnedd, defnyddiwyd gyfuniad o beipiau plastig Aquatherm (wedi’u weldio â gwres) ar gyfer y peipiau mawrion, a pheipiau plastig Pegler ar gyfer y peipiau llai yn y gwaith peipiau dosbarthiol yn nwy aden yr adeilad. Er mwyn sicrhau gwaith llyfn a phrydlon, treuliwyd llawer o amser yn dylunio cynllun gwaith manwl. Yn bell cyn cychwyn y prosiect, penderfynwyd ar faint y peipiau a’r pympiau, ond hefyd man-fanylion megis lleoliad penodol clampiau’r peipiau ar strwythur pren yr adeilad.

Ystyriodd InSite ddefnyddio tanwydd biomàs fel tanwydd, ond penderfynwyd defnyddio LPG yn lle. Erbyn hyn, mae dau fwyler 80kW Buderus yn cynhesu byffer (gan TML) sy’n dosbarthu’r egni trwy manifold (Levato) a falf sy’n addasu i’r tywydd (gan LK). Mae’r holl gydrannau yn cael eu rheoli gan reolwr trydanol gan SolarFocus. Denyddiodd Gwres Glas ei bartneriaid dibynadwy ynghyd â gweithwyr lleol o Sir Benfro i sicrhau bod InSite yn symud i’r swyddfeydd newydd ar amser a heb unrhyw ddŵr yn gollwng yn y system.