Ers cenedlaethau, mae fferm Mathrafal wedi ffynnu, ac yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r cwmni wedi ehangu ac arallgyfeirio. Trawsnewidwyd cyfres o hen adeiladau ac ysguborau ar y safle i swyddfeydd cyfoes. Maent yn swyddfeydd llawn golau gyda’r hen strwythurau pren mewn golwg. Yn ogystal â hyn, mae’r swyddfeydd wedi ynysu’n dda a’r llawr concrid wedi’i bolisho yn cael ei gynhesu gan system wres tan-llawr. Mae’r safle’n defnyddio system hydro a system solar mawr i gynhyrchu trydan. Mae bwyler biomàs, gyda bwyler olew wrth gefn, yn cynhesu’r swyddfeydd.
Gwres Glas oedd yn gyfrifol am ddylunio a gosod y system wres tan-llawr yn ail gyfnod y datblygu. Mae naw maniffold yn bwydo’r system tan-llawr ac yn tynnu gwres allan o danc byffer wedi ei reoli gan falf sy’n addasu â’r tywydd.
Gwnaethom gyfres o newidiadau ar y peipiau a’r simnau yn ystafell y bwyleri er mwyn gwella effeithlonrwydd a golwg y system wresogi yna. Ychwanegom reolwr ‘cascade’ i’r system i wella rheolaeth y bwyleri.
