
Adnewyddwyd system wresogi canolfan ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, ger Ponterwyd, sy’n cael ei redeg gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Gosodwyd system yn defnyddio dau fwyler – un biomàs Oekofen ac un LPG Worcester-Bosch.

Mae’r ganolfan yn brysur trwy gydol y flwyddyn, gydag ymwelywr yn dod i wylio’r adar, i feicio a rhedeg, ac i ddod i ymlacio yn y caffi sy’n edrych allan dros y llyn a’r goedwig. Galluogodd dylunio a chynllunio gofalus Gwres Glas i’r caffi aros yn agored yn ystod gwaith adnewyddu’r system wresogi. Gwnaethpwyd asesiad risg manwl a thrylwyr cyn cychwyn y gwaith i sicrhau diogelwch ein gweithlu, y staff ar y safle ac wrth gwrs yr ymwelwyr niferus.
Roedd yn rhaid addasu’r cynllun i gynnwys gwaith adeiladu wedi i rhan o’r adeilad brofi’n ansefydlog. Cydweithredwyd gyda phartneriaid adeiladu er mwyn caniatau i’r gwaith adeiladu ddigwydd law yn llaw ag adeiladu’r strofa danwydd i’r pellets coed tân.

Yn yr ystafell blanhigion, fe wnaethon ni ddefnyddio cyfuniad o bibellau plastig wedi’u weldio’n thermol (Aquatherm) a chopr. Er i ni gadw’r pwmp gwresogi gwreiddiol, fe wnaethon ni osod falf gymysgu newydd sy’n cael ei digolledu am dywydd (LK), a reolir gan y boeler, ac uned dŵr croyw gan Lovato. Arhosodd y system allbwn gwresogi yr un fath, er ei bod bellach yn fwy dibynadwy ac yn fwy cytbwys nag yr oedd. Ehangwyd ein cwmpas gwreiddiol i gynnwys pympiau atgyfnerthu dŵr newydd (DAB) a hidlo UV newydd.