
Mae Promotional Handling Ltd yn gwmni dosbarthu mawr yn y Trallwng sy’n prosesu a phecynnu nwyddau ac yn cyflawni gwaith hyrwyddo ar ran cwmniau eraill.
Gwaith Gwres Glas oedd adnewyddu’r system wresogi i’r warws a swyddfeydd a gosod bwyler newydd i gynhesu’r safle. Yn wreiddiol, cynlluniwyd i osod cyfres o reiddiaduron i gynhesu’r swyddfeydd ar y llawr copa, ond ehangwyd y prosiect i osod gwyntllion awyr cynnes er mwyn cadw’r gweithlu ar lawr gawelod y warws yn gynnes wrth eu gwaith.

Defnyddiwyd fwyler biomàs mawr (Biotech PZ100) yn lle’r hen foiler olew aneffeithlon. Defnyddiwyd beipiau plastig wedi’u weldio â gwres (Aquatherm) i gysylltu’r bwyler a’r byffer, ac i gysylltu’r gwyntyllau. Defnyddiwyd beipiau copr mawrion i redeg y rheiddiaduron ar y llawr copa.